R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1003(FM)
2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru? OAQ(4)1013(FM)
3. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa wersi sydd wedi’u dysgu yn sgîl methiant rhaglen Genesis Cymru Wales 2?OAQ(4)1005(FM)
4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu cyfleoedd swyddi ar gyfer pobl ifanc yng Ngogledd Cymru?OAQ(4)1014(FM)W
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch Swyddfeydd Post yn ystod y chwe mis diwethaf?OAQ(4)1006(FM)
6. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ag awdurdodau lleol ynghylch newidiadau mewn nawdd cymdeithasol? OAQ(4)1008(FM)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei rôl yn pennu blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1004(FM)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r lleihad yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n cael eu derbyn i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt?OAQ(4)1009(FM)
9. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod? OAQ(4)1007(FM)
10. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn Nhor-faen? OAQ(4)1010(FM)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru?OAQ(4)1011(FM)
12. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru?OAQ(4)1012(FM)